Tip:
Highlight text to annotate it
X
Archwilio Technoleg Cwmwl
Ian Moyse, Cyfarwyddwr Gwerthiannau -- Workbooks.com
Mae Cwmwl yn cael ei frolio ormod, mae'n enw sy'n enerig iawn ac roedd yn codi
dychryn ar lawer o bobl gan fod llawer o dermau technegol yn cael eu defnyddio
o'i gwmpas "mae meddalwedd yn wasanaeth" "SAS" "PAS" "IAS". Ond nid dyna'r
hyn y dylen ni edrych arno mewn gwirionedd, dylen ni edrych ar yr hyn y gallai e
ei wneud ar fy rhan i a'm busnes neu yn fy mywyd personol.
Beth mae'n ei gyflenwi mewn gwirionedd yw mwy o hyblygrwydd i fynediad, ai
ynghylch eich data neu'ch cymwysiadau, ar unrhyw ddyfais, unrhyw le, unrhyw
amser.
Felly, er enghraifft, ynghylch rhannu ffeiliau, yr hen fyd lle mae'n anodd iawn
i symud ffeiliau mawr o gwmpas a'u hanfon i bobl. Heddiw, os yw'n golygu
defnyddio sky drive Microsoft, googleapps, cwympflwch, box net yn rhad
iawn os *** am ddim gallwch lusgo ffeil ar eich CP i gyfeiriadur ac eiliadau yn
ddiweddarach gallwch ei chyrchu ar eich iPhone, eich blackberry neu eich dyfais
dabled. Neu gallwch ei rhannu gyda rhywun arall o gwmpas y byd heb angen
gwybod neu dybio sut mae'r technoleg yn mynd i weithio. Dim ond trwy wybod
eu cyfeiriad e-bost. Felly mae cwmwl yn wir alluogi busnesau i wneud pethau'n
symlach nag erioed o'r blaen.
Beth rydyn ni'n mynd i'w weld yn y farchnad yw mwy o arloesi, cyflenwi
cymwysiadau'n gyflymach i fusnesau mewn ffordd y gall pawb ei fforddio.
Os ystyriwch fyfyrwyr yn dod i mewn i fusnes heddiw o fyd addysg maen nhw'n
ei gymryd yn ganiataol. Bellach dydyn nhw ddim yn edrych ar adeiladu system,
prynu blwch, meddalwedd, ei gyflunio am wythnosau cyn y gallwch chi ei
gyrchu. Maen nhw'n mynd i ddisgwyl troi rhywbeth ymlaen, mewngofnodi i
wefan, llenwi rhai manylion a bod yn barod o fewn diwrnod. Mae'n golygu bod
busnesau'n llawer mwy hyblyg. Hefyd mae'n sicrhau bod busnesau bach yn
fwy cystadleuol ac yn gallu gwasanaethu ac ymgysylltu â chwsmeriaid yn llawer
gyflymach nag o'r blaen.
Llawer o flynyddoedd yn ôl roedd gennym gymwysiadau a oedd ar gael i'r
cwsmer menter yn unig. Roedden nhw'n rhy ddrud a rhy gymhleth. Heddiw
mae gennym fusnesau bach yn defnyddio cymwysiadau mae'r cwsmer menter a
chorfforaethol yn eu defnyddio hefydl.
Mae wedi gwir newid y ffordd rydyn ni'n deall y technoleg newyddaf, mae wedi
tynnu'r holl eiriau technegol a'r technoleg i ffwrdd gan olygu y gall y busnes
bach weithredu'n llawer mwy dibynadwy a llawer mwy diogel a fforddadwy nag
erioed o'r blaen.