Tip:
Highlight text to annotate it
X
Helo, Leighton Andrews ydw i, Gweinidog Addysg Llafur yn Llywodraeth Cynulliad
Cymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch
i fudiad y myfyrwyr ac UCM Cymru yn arbennig am y gefnogaeth ardderchog
a roddwyd i undebau myfyrwyr ledled Cymru mewn annog pobl ifanc i bleidleisio
yn y refferendwm a gynhaliwyd yn ddiweddar ar bwerau llunio deddfau’r Cynulliad.
Daliodd mudiad y myfyrwyr at ei draddodiadau o gefnogi datganoli yng Nghymru
ac ‘rydym yn ddiolchgar i chi am hynny. Beth mae Llafur Cymru wedi ei wneud?
Ym Mhlaid Lafur Cymru, ‘rydym yn falch ein bod wedi gallu
amddiffyn myfyrwyr sy’n wreiddiol o Gymru rhag gorfod talu ffioedd
dysgu uwch yn y brifysgol, ble bynnag y byddant yn astudio.
Ni fyddem wedi dewis dilyn llwybr clymblaid y Ceidwadwyr / Democrataid Rhyddfrydol
yn San Steffan o gyflwyno marchnad mewn ffioedd. Ac mae’n siomedig fod Ceidwadwyr Cymru
yn gwrthod cefnogi ein polisi i sicrhau *** oes rhaid i fyfyrwyr
Cymreig dalu ffioedd uwch. Joanne ydw i – ‘dwi’n fyfyrwraig ym
Mhrifysgol Caerdydd Oeddet ti’n disgwyl mynd i’r Brifysgol?
‘Doedd e ddim yn rhywbeth oeddwn i wedi ei ystyried
ar y dechrau, oherwydd fy mod i’n dod o gefndir gweddol dlawd;
‘roedd amgylchiadau fy nheulu braidd yn anodd
– ‘roeddwn i’n ofalydd ifanc, ond wrth i mi fynd
i mewn i’r 6ed dosbarth, cefais fy annog i fynd i’r brifysgol.
‘Roeddwn i wastad wedi meddwl fod hynny’n rhywbeth na allwn
i fforddio ei wneud, ond oherwydd y grantiau mae’r Blaid Lafur wedi
eu gosod mewn lle, ‘roedd hyn yn opsiwn i mi wedi’r cyfan.
A’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg? (Leighton Andrews) Yng Ngymru, wrth gwrs,
‘rydym yn cadw’r LCA, fel y gall pobl ifanc o’n
cymunedau mwyaf difreintiedig barhau yn yr ysgol neu’r coleg.
(Joanne) Fe lwyddais i fynd i’r Brifysgol oherwydd LCA
– fuaswn i ddim yn eistedd yma heddiw pe na bai am y LCA
a osodwyd mewn lle gan y Blaid Lafur. Mae’r ffaith ei fod wedi cael ei
amddiffyn yng Nghymru yn dangos fod datganoli yn gweithio
a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod pobl o flaen gwleidyddiaeth.
(Leighton Andrews) Gall mudiad y myfyrwyr yng Nghymru,
ac UCMC yn arbennig, fod yn falch o’r hyn mae
wedi ei gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Bydd rhaid i bob sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru gynhyrchu cynllun ffioedd dysgu
– os ydynt eisiau codi mwy na £4,000,
ac mae hynny o ganlyniad i ymgyrchu a lobïo gan undebau
myfyrwyr yng Nghymru ac UCMC, a dylid eich llongyfarch am hynny.
Llafur Cymru ac UCMC Cynhaliwyd cyfarfod arbennig gyda llywyddion
a swyddogion addysg o undebau myfyrwyr prifysgolion yng Nghymru, ac yn y cyfarfod hwnnw, trafodwyd
yr holl faterion sy’n wynebu addysg uwch yng Nghymru
ar hyn o bryd. ‘Rydym hefyd yn gweithio gydag UCMC i annog
datblygiad Llais Dysgwyr a Datblygiad Myfyrwyr yn y sector
Addysg Bellach yn ogystal, gyda’r buddsoddiad a wnaethpwyd er mwyn rhoddi cefnogaeth i UCMC
gyda datblygiad undebau myfyrwyr mewn Addysg Bellach.
Gobeithio y cewch chi gynhadledd dda.